Y Grŵp Trawsbleidiol ar Fioamrywiaeth

Dydd Mawrth 18 Chwefror 2014, 18.00 - 19.30

Ystafell Gynadledda 24, Tŷ Hywel

 

Yn bresennol

 

Nick Ramsay AC (NR)

Cadeirydd sy'n Ymadael

Llyr Huws Gruffydd AC (LG)

Cadeirydd Newydd

Alan Michie (AC)

Cadeirydd, Sir Fynwy Cyfeillgar i Wenyn

Andrew Whitehouse (AW)

Buglife

Angharad Evans (AE)

Coed Cadw

Caryn Le Roux (CLR)

Arweinydd Tîm Polisi Bioamrywiaeth, LlC

Catrin Davies (CD)

Ymchwilydd Plaid Cymru

Chris Lea (CL)

Yr Adran Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Clive Hurford (CH)

Cyfoeth Naturiol Cymru

James Byrne (JB)

Ymddiriedolaethau Natur Cymru

Jerry Langford (JL)

Coed Cadw

Karen Whitfield (KW)

Cyswllt Amgylchedd Cymru

Laura Cropper (LC)

RSPB Cymru

Lisa Laird (LL)

Yn cynrychioli David Melding AC

Lucie Taylor (LT)

Gwasanaeth Cynghori ar Dir Cymunedol

Matthew Sayer (MS)

Uwch-gynghorydd Polisi, Asiantaeth Cynnal Plant Cymru

Nigel Ajax-Lewis (NAL)

Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru

Raoul Bhambral (RB)

Cyswllt Amgylchedd Cymru

Rhian Jayne Power (RP)

WEFO

Roger Mathias (RM)

Cynghorydd Fferm, Fferm Penlan

Rowan Flindall-Shayle (RFS)

Cynghorydd Fferm, Fferm Penlan

Russel Hobson (RH)

Gwarchod Glöynnod Byw Cymru, Cadeirydd Gweithgor Defnydd Tir a Bioamrywiaeth Cyswllt Amgylchedd Cymru

Russell George AC (RG)

Aelod Cynulliad

Sinead Lynch (SL)

Bumblebee Conservation Trust

Siobhan Wiltshire (SW)

Adran Gynllunio Llywodraeth Cymru

Susan Evans (SE)

Cyswllt Amgylchedd Cymru

 

1.    Croeso gan y Cadeirydd, Nick Ramsay AC

Croesawodd NR yr aelodau i'r cyfarfod ac eglurodd, er ei fod wedi mwynhau ei amser fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Fioamrywiaeth, y byddai'n ymadael yn ystod y cyfarfod hwn.

 

2.    Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Eglurodd NR, oherwydd y rheolau newydd ar gyfer Grwpiau Trawsbleidiol, bod yn rhaid i Grwpiau bellach gynnal Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol lle caiff Cadeirydd ac Ysgrifennydd y Grŵp eu henwebu a'u cadarnhau. Yna gofynnodd NR am enwebiadau ar gyfer Ysgrifennydd. Cadarnhawyd mai Raoul Bhambral o Cyswllt Amgylchedd Cymru fyddai'r Ysgrifennydd. Yna agorodd NR y llawr i enwebiadau ar gyfer rôl y Cadeirydd. Enwebwyd LG gan JB, eiliwyd hyn gan NR, a chafodd ei gadarnhau.

Yna daeth NR â'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol i ben, a throsglwyddodd yr awenau i LG, y Cadeirydd newydd, am weddill y cyfarfod.

Diolchodd LG i NR am ei waith fel Cadeirydd a gobeithiai y byddai NR yn parhau i fod yn aelod gweithgar o'r Grŵp.

Yna cyflwynodd LG thema'r cyfarfod, sef peillyddion, a chyflwynodd Russel Hobson, Cadeirydd Gweithgor Defnydd Tir a Bioamrywiaeth Cyswllt Amgylchedd Cymru, i wneud rhai sylwadau agoriadol ar y thema. Gofynnodd LG a ellid peidio â gofyn cwestiynau hyd nes y byddai'r holl siaradwyr wedi gorffen eu cyflwyniadau.

3.    Cyflwyniad i Beillyddion (Russel Hobson, Cadeirydd Gweithgor Defnydd Tir a Bioamrywiaeth Cyswllt Amgylchedd Cymru)

Esboniodd RH mai pwrpas y cyfarfod hwn oedd rhoi trosolwg o beillyddion, beth y maent yn ei wneud a'r hyn y maent ei angen, ac i roi enghreifftiau ymarferol o'r ddarpariaeth ar lawr gwlad. Cyfeiriodd RH hefyd at ei rôl ar y Tasglu Peillyddion, sy'n gyfrifol am gynghori ynghylch strategaeth Llywodraeth Cymru i ddarparu ecosystem iach a gwydn i gefnogi peillyddion yn y dyfodol.

Cyflwynodd RH y siaradwr cyntaf, Sinead Lynch o'r Bumblebee Conservation Trust.

 

4.    Pam y dylem boeni am gacwn? (Sinead Lynch, Bumblebee Conservation Trust)

Rhoddodd SL drosolwg o ecoleg cacwn, gan gynnwys eu cylch bywyd, y cynefinoedd sydd eu hangen arnynt a'u hanghenion o ran bwyd. Dangosodd mor bwysig yw planhigion sy'n blodeuo yng nghefn gwlad yn gyffredinol, yn enwedig y rhai sy'n blodeuo am gyfnodau hir. Hefyd, eglurodd SL mai gwenyn yn unig sy'n peillio rhai mathau o gnydau, fel tomatos, ac y byddai peillio llawer o gnydau â llaw yn anymarferol, yn economaidd annichonadwy, ac mewn rhai achosion, yn amhosibl.

Gofynnodd SL i'r grŵp gofio am y ffaith allweddol bod y DU, yn ystod y 70 mlynedd diwethaf, wedi colli 97% o'i gweirgloddiau blodau gwyllt, sef y cynefin pwysicaf ar gyfer cacwn.

5.    Gweithredu dros Beillyddion: astudiaethau achos (James Byrne, Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Cymru)

Esboniodd JB, pe baem yn colli ein peillyddion (nid dim ond gwenyn, ond gwyfynod, ieir bach yr haf, chwilod a phryfed eraill), y byddai'n costio tua £1.8 biliwn i beillio cnydau a phlanhigion gwyllt y DU â llaw. Mewn rhai mannau yn Tsieina, maent eisoes yn gorfod dibynnu ar beillio â llaw, ond byddai gwaith o'r fath yn cael ei ystyried yn annymunol yn y DU.

Disgrifiodd JB Raglen Asedau Naturiol Sir Fynwy, sydd wedi cael ei threfnu gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent. Defnyddir arian grant i weithio gyda thirfeddianwyr i wneud gwaith na ellir ei ariannu gan gynlluniau amaeth-amgylcheddol. Cafodd tirfeddianwyr arolygon rhad ac am ddim i ganfod pa rywogaethau a oedd ganddynt ar eu tir a sut i'w diogelu a'u gwella. Rhoddwyd grantiau cyfalaf, a hefyd hyfforddiant ac addysg. Roedd y ffocws pennaf ar gynefinoedd glaswelltir, er mwyn annog blodau gwyllt ac, felly, peillyddion. Bu’r cynllun hwn yn llwyddiannus iawn ac mae'r Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt yn bwriadu lledaenu hyn ar draws Cymru. Esboniodd JB fod enghreifftiau tebyg ledled Cymru o gynlluniau'r Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt.

6.    Ffermio gyda Bywyd Gwyllt - Rheoli tir fferm ar gyfer bioamrywiaeth a busnes (Roger Matthias a Rowan Flindall-Shayle, Burns Pet Nutrition)

Mae RM ac RFS yn gweithio fel Cynghorwyr Ffermio ar gyfer Fferm Penlan, sy'n cynhyrchu cynhwysion bwyd anifeiliaid anwes o ansawdd ar gyfer Burns Pet Nutrition, ac ar yr un pryd yn darparu cynefin sy'n garedig i beillyddion. Mae gan berchennog Burns Pet Nutrition ddiddordeb mewn cadwraeth, felly roedd am gynhyrchu cynhwysion bwyd anifeiliaid anwes ac ar yr un pryd gwneud y fferm yn ganolfan cadwraeth ac addysg, ac yn fan y gallai'r cyhoedd ymweld â hi i fwynhau a dysgu am natur.

Cyn hynny, fferm laeth ddwys oedd y fferm sydd, gydag amser, wedi'i throi'n ôl yn dir dan gnwd. Mae yno fuches fach o fridiau prin, a ddefnyddir ar gyfer rheoli tir pori, yn hytrach nag am ei chig. Mae'r caeau cnwd i gyd ag ymyl parhaol o 3-4 metr, ac maent wedi eu plannu â meillion gwyn a choch. Mae'r caeau mwyaf wedi'u rhannu'n gaeau llai ac mae mwy o wrychoedd wedi'u plannu.  Mae yno fannau wedi'u neilltuo'n benodol ar gyfer bywyd gwyllt, gan gynnwys cae sy'n benodol ar gyfer gwenyn.

Nod y fferm yw dangos i ffermwyr beth sy'n bosibl ar eu ffermydd, gan dderbyn na fyddai'r rhan fwyaf o ffermydd yn gallu gweithredu popeth sydd ar fferm Penlan.  Y gobaith yw dangos bod amrywiaeth o bethau y gellir eu hymgorffori ar fferm fasnachol a all fod yn llesol i fywyd gwyllt.

Yn ogystal â denu peillyddion, mae'r gorchudd ychwanegol hefyd wedi annog mamaliaid mwy o faint i symud i'r ardal, gan gynnwys 3 phâr o ysgyfarnogod sy'n bridio.

Hefyd, mae'r fferm wedi dechrau tyfu ychydig o wair gweirglodd Gymreig, sy'n boblogaidd gyda pherchnogion cwningod, ac yn gynnyrch premiwm. Yn ddiweddar mae llwybr fferm newydd wedi cael ei agor ar gyfer cerddwyr, ac mae hawliau tramwy eraill ar y tir. Ar hyn o bryd mae'r fferm yn gwneud cais i ymuno â Glastir.

7.    Trafodaeth

Diolchodd LG i bob un o'r tri siaradwr ac agorodd y drafodaeth drwy ofyn sut roedd RM yn gweld y dull hwn yn cael ei brif ffrydio.

Esboniodd RM eu bod yn ceisio dangos y cysylltiadau rhwng gwaith cadwraeth a hyfywedd masnachol a dangos dulliau y gall tirfeddianwyr eraill roi cynnig arnynt ar eu tir, megis lleihau maint y caeau, rheoli gwrychoedd yn well ac ati.

Gofynnodd RB beth roedd y ffermydd eraill yn ei feddwl o'r syniadau. Dywedodd RM ei bod yn ddyddiau cynnar, ond roeddynt wedi gweithio gyda ffermwyr llaeth dwys a oedd â diddordeb mewn defnyddio corneli caeau i gynyddu'r amrywiaeth o rywogaethau. Esboniodd RM nad ydynt yn honni bod yn fodel y gellir ei ddefnyddio ar raddfa fawr yn ei gyfanrwydd.  Eu nod yn hytrach yw darparu enghreifftiau o'r hyn y gellir ei wneud.

Gofynnodd CL sut y gallwn fod yn fwy creadigol o ran hybu gweirgloddiau. Mewn hinsawdd sy'n gynyddol wlyb, gallai hyn achosi problemau o ran gwneud gwair, gan fod angen tywydd sych i'w gynaeafu.

Esboniodd RM bod modd lapio gwair gwlyb a'i eplesu i'w ddefnyddio fel bwyd anifeiliaid os nad yw'r tywydd yn ddigon sych ar yr adeg iawn.

Nododd JB fod y rhan fwyaf o ffermwyr yn cael taliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin, felly rhaid defnyddio'r taliadau hyn i gymell ffermwyr i gynhyrchu gwair, ymhlith pethau eraill, er mwyn helpu peillyddion.

Dywedodd CL y gallai Glastir a Chyswllt Ffermio gael eu defnyddio hefyd i annog hyn.

Dywedodd LG bod Llywodraeth Cymru yn agored i'r syniad o hybu hyn drwy gyfrwng y Cynllun Datblygu Gwledig, ond mae angen inni weld pethau'n digwydd ar lawr gwlad, dysgu o brofiadau a throi'r syniadau hyn yn fodel economaidd hyfyw.

Gwnaeth RH bwynt nad yw gwair a silwair, er y sylw a roddir iddynt, yn ddim ond un ffordd ymhlith llawer o helpu peillyddion. Mae'n bwysig dangos bod llawer o bethau y gellir eu gwneud, ac yna canfod beth sy'n gweithio ar bob fferm unigol. Mae hefyd yn bwysig cael ffermydd i weithio gyda'i gilydd. Un opsiwn yw cael porfa y gellir ei gadael yn weirglodd, sydd ddim ond yn cael ei defnyddio ar gyfer anifeiliaid sâl, fel y gwnaed yn y gorffennol. Hefyd, nid dim ond ffermwyr sydd â chyfrifoldeb i wneud hyn. Gallai mannau gwyrdd cymunedol gael eu rheoli ar gyfer peillyddion hefyd. Mae'n fwy na dim ond rhoi pwysau ar un grŵp i wneud popeth - mae cyfrifoldeb ar y cyd i wneud hyn.

Cyfeiriodd JB at y cyfleoedd masnachol a gynigir gan ffermwyr sy'n gweithio ar y cyd i gynhyrchu cynnyrch arbenigol, y gellir eu gwerthu am brisiau uwch, fel gwair o weirglodd. Mae'n bosibl y bydd cyfleoedd hefyd drwy ddefnyddio'r model Taliadau am Wasanaethau Ecosystem.

Soniodd CH am y broblem ein bod yn colli mwy a mwy o dir ffermio âr sydd â chaeau melyn Mair gwerthfawr, sy'n bwysig ar gyfer gwenyn. Roedd llawer o'r ffermydd hyn yn Tir Gofal, ond nid oeddynt wedi'u cynnwys yn Glastir.

Esboniodd SL bod eu tir yn awr mewn cyflwr rhy ffafriol iddynt fod yn gymwys. Golyga hyn nad oes unrhyw gymhelliant iddynt gynnal y tir yn y modd hwn.

Ychwanegodd JB a CH bod y math hwn o dir hefyd yn bwysig i adar a phlanhigion.

Awgrymodd LG y gallai aelodau'r Grŵp Trawsbleidiol roi'r wybodaeth hon i ymgynghoriad Glastir efallai.

Trafododd aelodau'r grŵp ddulliau lleol o warchod gwenyn sy'n dirywio. Esboniodd SL bod gwaith lleol yn brif ffocws ei gwaith, yn enwedig ar laswelltiroedd gyda mewnbwn isel.

Gofynnodd LG a oedd sefydliadau yn ymwneud ag awdurdodau lleol mewn perthynas â'u tir, a lleiniau glas.

Dywedodd yr aelodau yn yr ystafell bod hwn yn rhywbeth y maent yn ymwneud ag ef.

Soniodd RH mor bwysig oedd newid y canfyddiad bod tir ag arno flodau yn dir gwastraff, a defnyddio dulliau fel cylchdroi'r gwaith o dorri lleiniau glas, yn hytrach na gwneud y cyfan ar unwaith. Rhaid gwneud pethau ar wahanol raddfeydd, boed hwnnw'n waith wedi'i dargedu neu'n waith mwy cyffredinol, er mwyn cael effaith go-iawn.

Nododd LG y gwaharddiad ar ddefnyddio plaladdwyr neonicotinoid, ond teimlwyd bod hwn yn ddull unllygeidiog o weithredu.  Gofynnodd pa mor bwysig oedd y rhesymau eraill ar gyfer y gostyngiad yn niferoedd y gwenyn, fel colli cynefinoedd, a chlefydau.

Dywedodd SL mai colli cynefinoedd yw'r broblem bennaf. Yng Nghymru, mae plaladdwyr yn llai o broblem gan fod llai o dir âr. Mae ynysu poblogaethau am nad oes cysylltiad rhwng gwahanol fathau o gynefinoedd yn broblem fawr, gan fod hynny'n gadael y nythfeydd mewn perygl pan fydd clefydau'n eu bwrw.

Gofynnodd LG hefyd am effeithiau'r newid yn yr hinsawdd ar wenyn. Dywedodd SL y bu rhywfaint o effaith ar rywogaethau brodorol, ond bod yr hinsawdd gynhesach yn denu rhywogaethau newydd. Dywedodd RH bod yr hinsawdd yn dal yn dda ar gyfer gwenyn, ond nad oes digon o gynefinoedd iddynt deithio rhwng ardaloedd a rhwng gwledydd, felly mae gwella'r cysylltiadau yn bwysig. Hefyd, dywedodd RH wrth y grŵp y bydd y Tasglu Peillyddion yn ymateb i ymgynghoriad Glastir ar y mater hwn, ac y croesewir mewnbwn.

Tynnodd JB sylw at y pwysigrwydd o sicrhau bod tir cyhoeddus yn gyfeillgar i beillyddion, ac awgrymodd y gellid annog pobl i blannu mwy o berlysiau, sydd hefyd yn dda i beillyddion. Roedd Cyngor Conwy yn darparu potiau o blanhigion bwytadwy mewn mannau cyhoeddus, ac roedd y rheini'n boblogaidd iawn.

Tynnodd AW sylw at bwysigrwydd safleoedd tir llwyd fel cynefinoedd arbenigol ar gyfer blodau gwyllt a phryfed, gan gynnwys peillyddion. Mae cynefin o'r fath yn aml yn bwysig i rywogaethau prin. Gallai gweirgloddiau gael eu creu mewn trefi hefyd, a gall hyn fod yn ffordd o gysylltu'n well gyda'r cyhoedd ar y materion hyn.

Cafwyd trafodaeth gryno yn y grŵp am gyfleoedd fel gwneud Caerdydd yn Ddinas Bwyd Cynaliadwy, er mwyn annog garddio cymunedol a mwy o blannu perlysiau.  Gellid gwneud hynny mewn mannau cyhoeddus, a gallai pobl leol gael eu hannog i ddefnyddio'r perlysiau ffres os dymunant hynny. Byddai mentrau o'r fath yn dod â phobl yn nes at y tir, a byddent hefyd yn llesol i beillyddion.

Dywedodd RF wrth y grŵp am fenter ar fferm Penlan sy'n cael ei noddi gan yr archfarchnadoedd mawr i annog pobl i ailgysylltu â bwyd a ffermwyr. Byddant hefyd yn ymgysylltu â grwpiau ysgol. Awgrymodd JB y gallai fod yn beth da i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd ymweld â hyn. Cytunodd CL y byddai gan y Gweinidog ddiddordeb yn hyn.

Ailbwysleisiodd RM mai diben Fferm Penlan oedd integreiddio ffermio masnachol â chadwraeth. Roedd yn gobeithio ennyn diddordeb mwy o arbenigwyr masnachol yn y fenter hon a'u cael i helpu i gryfhau'r safbwynt hwn. Cafodd y rhai a oedd yn bresennol eu gwahodd i ymweld â'r fferm, yn enwedig yn yr haf.

Dywedodd LG bod trosglwyddo gwybodaeth yn gynnig allweddol yn y Cynllun Datblygu Gwledig, a'i bod yn bwysig cyfleu'r neges hon.

Dywedodd JL bod Cadwch Gymru'n Daclus yn arwain ar gynnig ar gyfer prosiect adfywio gwrychoedd, felly gallai aelodau'r grŵp gefnogi'r cais hwn i Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Hefyd, roedd Coed Cadw yn darparu, gyda chymhorthdal, becynnau o goed sy'n llesol i beillyddion, a byddai ganddynt ddiddordeb mewn gweithio gyda sefydliadau eraill a allai ychwanegu gwerth at y pecynnau hyn. Mae galw mawr amdanynt eisoes, er nad ydynt wedi cael eu hyrwyddo'n frwd eto. Mae'r pecynnau yn cynnwys tua 100 o goed.

Diolchodd LG i'r grŵp am fod yn bresennol a gwahoddwyd yr aelodau i gynnig themâu ar gyfer y cyfarfod nesaf, ac awgrymu'r rheini wrth yr Ysgrifennydd. Daeth y cyfarfod i ben.